Mae’r heddlu wedi dod o hyd i gyrff tri dyn mewn eiddo yn Essex.
Cafodd yr heddlu eu galw i ardal Colchester yn gynnar fore heddiw (dydd Sul, Hydref 6).
Daw’r darganfyddiad ar ôl iddyn nhw gael eu galw yn sgil pryderon am les dau ddyn yn dilyn ffrwgwd.
Cafodd dau gorff eu darganfod mewn eiddo, a’r llall mewn car.
Mae dyn 32 oed wedi cael ei arestio ar amheuaeth o lofruddio.
Dydy’r heddlu ddim yn chwilio am unrhyw un arall mewn perthynas â’r digwyddiad, ac yn cadw meddwl agored ar hyn o bryd.