Mae dyn 25 oed wedi mynd at yr heddlu o’i wirfodd yn Awstria ar ôl saethu ei gyn-gariad, ei chariad newydd hithau a’i theulu yn farw.
Fe ddigwyddodd yn Kitzbuhel yn yr Alpau.
Dywed yr heddlu fod y dyn wedi mynd i gartref teulu ei gyn-gariad am 4 o’r gloch fore heddiw (dydd Sul, Hydref 6) ond fe adawodd pan agorodd ei thad y drws.
Aeth e adref cyn dychwelyd gyda dryll ei frawd.
Dywed yr heddlu ei fod e wedi saethu tad ei gyn-gariad wrth iddo agor y drws, ac yna’i brawd yn ei ystafell wely.
Ar ôl lladd mam ei gyn-gariad, fe ddringodd dros falconi i gyrraedd ystafell wely ei gyn-gariad a’i lladd hi a’i chariad newydd, dyn 24 oed.