Mae Ruth Davidson, cyn-arweinydd y Ceidwadwyr yn yr Alban, wedi awgrymu na fydd hi’n sefyll mewn etholiad cyffredinol arall.
Ond mae’n dweud y gallai hi fod yn barod i dderbyn rôl yn ymgyrchu tros ‘Na’ mewn ail refferendwm annibyniaeth i’r Alban pe bai hi’n cael gwahoddiad i gymryd rhan.
Daw ei sylwadau wrth iddi annerch cynulleidfa yng Ngŵyl Lyfrau Wigtown.
“Mae’n gyfrinach eithaf agored fy mod i’n meddwl y bydda i’n gweld diwedd fy nhymor,” meddai.
“Dw i’n rhoi’r opsiwn i fi fy hun gael newid fy meddwl, ond dw i ddim yn credu y bydda i’n sefyll eto.”
Ail refferendwm annibyniaeth
Mae’n dweud ei bod hi’n gobeithio na fydd yna ail refferendwm ar annibyniaeth i’r Alban, ond y byddai hi’n barod i ymgyrchu yn erbyn annibyniaeth.
“Fe wna i bopeth alla i er mwyn atal hynny rhag digwydd ond os yw’n digwydd, does yna ddim ffordd o gwbl y gwna i ei hepgor,” meddai.
“Fy ngwlad i yw hon, dyna dw i wedi brwydro drosti, dyna dw i’n credu ynddi.
“Pa un a yw rhywun eisiau i fi gael swydd neu fynd o gwmpas yn curo ar ddrysau a dosbarthu taflenni, dw i’n hapus yn gwneud y ddau.”