Mae dyn wedi marw ar ôl cael ei daro gan fan rhwng Bryncrug a Thywyn.
Fe ddigwyddodd toc cyn 9.45 neithiwr (nos Sadwrn, Hydref 5), pan gafodd y dyn, nad oedd yn dod o’r ardal, ei daro gan fan Mercedes Vito.
Bu’n rhaid cau’r ffordd tan oriau man y bore.
Mae Heddlu’r Gogledd yn apelio am dystion.