Mae un o gynghorwyr plaid y DUP yng Ngogledd Iwerddon wedi cael ei gyhuddo o droseddau rhyw sy’n ymwneud â phlentyn.
Mae disgwyl i Thomas Hogg, 31, ymddangos gerbron Llys Ynadon Belfast yn hwyrach yn y mis.
Mae cyn-faer dinas Newtownabbey wedi ei gyhuddo o gyfathrebu’n rhywiol â phlentyn ac o geisio achosi neu gymell plant rhwng 13 a 16 i ymgymryd â gweithred rywiol.
Yn 2016, derbyniodd Thomas Hogg yr MBE am ei wasanaeth i lywodraeth leol.