Mae arweinwyr y gwrthbleidiau yn cwrdd yn San Steffan heddiw (dydd Llun, Medi 30) mewn ymgais i geisio atal Boris Johnson rhag gorfodi Brexit heb gytundeb ar Hydref 31.
Ymhlith y pleidiau sy’n bresennol yn y cyfarfod mae’r Blaid Lafur, y Democratiaid Rhyddfrydol, y Blaid Werdd, Plaid Cymru a’r SNP.
Mae disgwyl i’r arweinwyr drafod cynllun gan Jo Swinson, arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol, a fydd yn gorfodi’r Prif Weinidog i ofyn am estyniad arall i Brexit.
Mae’r Senedd eisoes wedi cymeradwyo’r hyn sy’n cael ei alw’n ‘Ddeddf Benn’, sy’n ei gwneud hi’n gyfreithiol orfodol i Boris Johnson ofyn am estyniad os nad yw’n gallu sicrhau cytundeb Brexit newydd erbyn Hydref 19.
Ond mae rhai ymhlith y gwrthbleidiau yn poeni y gallai Boris Johnson fynd yn groes i’r ddeddf, yn enwedig wrth iddo fynnu nad yw’n bwriadu gofyn am estyniad.
Yn ôl ffynhonnell o’r Democratiaid Rhyddfrydol, mae syniad Jo Swinson yn ymwneud â newid y dyddiad terfyn ar gyfer y cais am estyniad, fel ei fod yn fwy buan.
Os yw’r gwrthbleidiau’n bwrw ymlaen â’r cynllun hwn ac yn ei gyflwyno gerbron y Senedd yr wythnos hon, fe allai arwain at Aelodau Seneddol Ceidwadol a Gweinidogion yn gadael eu cynhadledd ym Manceinion ac yn rhuthro yn ôl i San Steffan.
Mae’r Senedd yn dal i weithredu ar hyn o bryd, er gwaethaf ymgais y Ceidwadwyr i’w gohirio am rai dyddiau er mwyn i’r gynhadledd fynd yn ei blaen.