Bydd yr Undeb Ewropeaidd yn derbyn papurau gan Lywodraeth San Steffan yr wythnos hon yn manylu ar eu cynlluniau Brexit, wrth i’r trafodaethau ddwysau cyn Hydref 31.
Mae’r Prif Weinidog Boris Johnson wedi gwthio am ddiddymu’r backstop yng Ngogledd Iwerddon yn “llwyr” cyn i gytundeb am ymadawiad gwledydd Prydain a’r Undeb Ewropeaidd gael ei gwblhau. Fe fyddai’r backstop yn ceisio osgoi ffin galed os nad oes cytundeb Brexit.
Fe fu’r Ysgrifennydd Brexit Stephen Barclay yn cyfarfod a phrif drafodwr yr Undeb Ewropeaidd Michel Barnier ddydd Gwener (Medi 27) i drafod y backstop.
Dywedodd llefarydd ar ran y Prif Weinidog: “Rwyf yn disgwyl y bydd rhagor o drafodaethau yn cael eu cynnal gyda’r Undeb Ewropeaidd yr wythnos hon.
Rydym wedi anfon papurau pellach i’r Undeb Ewropeaidd yr wythnos hon. O ran cynigion ffurfiol, byddwn ni’n anfon y rheini ymlaen pan fyddwn yn barod i wneud hynny.”