Dylai rhieni gynnwys eu plant mewn trafodaethau am roi organau yn ôl y corff sy’n cydlynu’r system trawsblaniadau yn y Deyrnas Unedig.
Mae sefydliad Gwaed a Thrawsblaniadau’r gwasanaeth iechyd (NHS BT) wedi gwneud apêl ar ôl i 42 o blant farw wrth ddisgwyl am galon newydd dros y pum mlynedd diwethaf.
Siarad am roi organau
Mae maint calonnau ac ysgyfaint yn bwysig wrth eu trawsblannu oherwydd y lle cyfyngedig y tu mewn i’r frest ac mae angen i’r organau fod â chryfder tebyg.
Ar gyfartaledd mae cleifion ifanc yn aros ddwywaith yn hirach nag oedolion am drawsblaniadau o’r fath.
Mae NHS BT yn tynnu sylw at y ffeithiau hyn ar Ddiwrnod Calon y Byd (heddiw, dydd Sul, Medi 29) yn y gobaith y bydd teuluoedd yn siarad am roi organau.