Mae’r Awdurdod Hedfan Sifil (CAA) wedi cludo 76,000 o bobol a oedd ar wyliau gyda chwmni Thomas Cook yn ôl i Brydain dros y pum niwrnod diwethaf.

Mae’n golygu bod hanner y rheini a oedd dramor pan aeth y cwmni i’r wal bellach yn ôl adref, gyda 95% o’r teithwyr yn dychwelyd ar y diwrnod roeddent wedi bwriadu.

Cafodd 15,000 o deithwyr eu dychwelyd mewn 68 o hediadau ddoe, ac mae disgwyl 16,700 ychwanegol yn ôl heddiw (dydd Sadwrn, Medi 28).

Erbyn cwblhau ei waith bydd y cyrch, Operation Matterhorn, wedi bod yn gyfrifol am gludo 150,000 yn ôl adref.

Dyma’r nifer uchaf erioed o bobol i gael eu cludo’n ôl i wedydd Prydain mewn amser o heddwch.