Mae Cyngor Gwynedd yn chwilio am unigolyn neu sefydliad i gynnal asesiad o beth fyddai effeithiau amgylcheddol codi gorsaf niwclear newydd yn Nhrawsfynydd.
Mae’r hysbyseb, ar wefan Gwerthwch i Gymru, yn dilyn cyhoeddiad gan Lywodraeth Prydain ddoe eu bod yn bwriadu buddsoddi dros £200 miliwn ar ddatblygu technoleg ymasiad niwclear.
Mae’r dechnoleg hon, sy’n cael ei defnyddio ar gyfer y bom hydrogen, yn gwasgu atomau hydrogen i wneud heliwm, gan greu llawer iawn o ynni yn y broses.
Mae, fodd bynnag, yn golygu creu tymhereddau eithafol o gannoedd o filiynau gradd Celsius, na all unrhyw ddeunydd solet ei wrthsefyll. Mae felly’n golygu datblygu meysydd magnetig pwerus i gadw’r plasma poeth rhag cyffwrdd y siambr sydd o’i amgylch.
Er bod cefnogwyr ynni niwclear yn dadlau y gall hyn fod yn ffordd ddi-garbon o gynhyrchu ynni, mae’r dechnoleg wedi profi llawer o anawsterau, gydag arbenigwyr yn awgrymu y bydd yn cymryd tua 30 mlynedd i’w datblygu.
‘Consortiwm o fudd-ddeiliaid’
Mae’r hysbyseb gan Adran Economi a Chymuned Cyngor Gwynedd “ar ran consortiwm o fudd-ddeiliaid” yn gwahodd ceisiadau gan ymgeiswyr addas i “gynnal asesiad cynhwysfawr o effaith amgylcheddol adeiladu a gweithredu adweithydd niwclear newydd o fath Adweithydd Modiwlar Bychan (SMR) neu Adweithydd Modlwar Datblygedig (AMR).”
Mae’n debygol o arwain at ddyfalu pellach fod Llywodraeth Prydain yn bwriadu defnyddio Trawsfynydd ar gyfer y datblygiadau arbrofol.