Mae degau o filoedd o swyddogion yr heddlu a staff yn gweithio heb i’w cefndiroedd gael eu harchwilio’n drwyadl, mae arolygwyr wedi rhybuddio.

Fe allai hyn helpu i amlygu’r rhai hynny sy’n camddefnyddio eu pwerau yn yr heddlu ar gyfer dibenion rhywiol, meddai’r arolygwyr.

Nid oes gan fwy na 10% o weithlu’r heddlu archwilidau diweddar, yn ôl Arolygiaeth Cwnstabliaeth yr Heddlu (HMICFRS).

Roedd arolygwyr wedi ymchwilio i ymdrechion 43 o luoedd yr heddlu yng Nghymru a Lloegr i edrych ar gefndiroedd swyddogion a staff. Roedden nhw hefyd wedi siarad gyda dioddefwyr oedd wedi’u camdrin yn ogystal a staff yr heddlu a swyddogion.

Roedd yr adroddiad wedi amlygu achosion fel Ian Naude, y treisiwr a oedd wedi targedu ei ddioddefwr 13 oed tra roedd yn gwnstabl dan hyfforddiant gyda heddlu Swydd Gaer, a’r swyddog yng nghanolbarth Lloegr Palvinder Singh a oedd wedi anfon cannoedd o negeseuon at ddioddefwyr bregus.

Yn ystod y tair blynedd ddiwethaf roedd Swyddfa Annibynopl Ymddygiad yr Heddlu (IOPC) wedi derbyn 415 o gwynion o dan y categori o gamddefnyddio pwerau ar gyfer dibenion rhywiol, yn ôl HMICFRS. Ond nid yw’n glir faint o achosion am honiadau o gamymddygiad gafodd eu profi.

Dywedodd arolygydd y cwnstabliaeth Zoe Billingham bod heddluoedd heb edrych yn fanwl ar gefndiroedd tua 35,000 o bobl sy’n gweithio i luoedd yr heddlu ar hyn o bryd.

Fe allai hyn gynnwys swyddogion a staff y 202,000 sy’n gweithio yn lluoedd yr heddlu yng Nghymru a Lloegr. Ond fe allai hefyd gynnwys contractwyr a gwirfoddolwyr o asiantaethau o’r tu allan.

Ychwanegodd Zoe Billingham ei bod yn “siomedig iawn” nad oedd rhai camau sylfaenol wedi cael eu cymryd i fynd i’r afael a’r broblem.