Mae Aelodau Seneddol wedi gwrthod cynnig y Llywodraeth i ohirio’r Senedd am dri diwrnod er mwyn galluogi’r Ceidwadwyr i gynnal eu cynhadledd flynyddol.
Roedd y Ceidwadwyr wedi rhybuddio’r gwrthbleidiau y byddai economi Manceinion ar ei cholled os na fydd cyfle iddyn nhw gynnal y gynhadledd yn llawn yr wythnos nesaf.
Ond fe benderfynodd aelodau Tŷ’r Cyffredin i wrthod y cynnig pan gafodd ei roi ger eu bron mewn pleidlais heddiw (dydd Iau, Medi 26), a hynny o 306 pleidlais i 289 – mwyafrif o 17.
Yn ôl un ffynhonnell o’r blaid Geidwadol, bydd y gynhadledd yn cael ei chynnal beth bynnag, ond mae’n cydnabod y bydd yn rhaid gohirio ambell ddigwyddiad os oes disgwyl i Aelodau Seneddol aros yn San Steffan.
Mae disgwyl i’r digwyddiad pedwar diwrnod – a fydd yn dechrau ddydd Sul (Medi 29) – gyfrannu mwy na £30m i economi Manceinion, meddai’r ffynhonnell wedyn.
Roedd disgwyl i Boris Johnson annerch y gynhadledd ddydd Mercher nesaf, ond mae’n debyg y bydd yn rhaid i hyn gael ei aildrefnu oherwydd Cwestiynau’r Prif Weinidog ar yr un diwrnod.