Mae cynghorwyr wedi cymeradwyo cynlluniau Sefydliad Trump i adeiladu 550 o dai yn yr Alban.

Mae’r datblygwr wedi derbyn caniatâd i adeiladu’r cartrefi – yn ogystal â safleoedd siopa a hamdden – ar Ystâd Menie, ger Aberdeen.

Arlywydd yr Unol Daleithiau, Donald Trump, sydd yn berchen ar Sefydliad Trump ac ef hefyd sydd yn berchen ar yr ystâd yn Balmedie.

Cafodd y cynlluniau eu cymeradwyo yn sgil cyfarfod yn Aberdeen, ac er gwaethaf gwrthwynebiad gan sawl cynghorydd.

Mae cynghorwyr Aberdeenshire eisoes wedi cymeradwyo cynlluniau i adeiladu ail gwrs golff ar Ystâd Menie.

Bydd swm helaeth o’r tai ar gyfer ymwelwyr â’r Alban sydd ar wyliau.