Mae arweinydd y brif wrthblaid yn San Steffan wedi galw ar y Prif Weinidog i “ystyried ei sefyllfa”, wedi i’r Goruchaf Lys ddyfarnu ei fod wedi torri’r gyfraith trwy gau’r Senedd i lawr am bump wythnos.

Mae Jeremy Corbyn newydd gyhuddo Boris Johnson hefyd o “ddangos dirmyg at wleidyddiaeth” er mwyn iddo fod “y prif weinidog mwya’ byrhoedlog erioed”.

Fe ddaeth dyfarniad unfrydol y Goruchaf Lys fore heddiw (dydd Mawrth, Medi 24) wedi i 11 o farnwyr fod yn ystyried yr achos.