Roedd penderfyniad Boris Johnson i gau’r Senedd am bump wythnos, yn un anghyfreithlon, yn ol dyfarniad unfrydol 11 o ustusiaid y Goruchaf Lys.
Bu i’r panel o farnwyr, dan arweiniad yr Arglwyddes Hale, glywed apeliadau a heriau cyfreithiol yn yr Alban ac yn Lloegr, gan ddod i’r casgliad fod cyngor Boris Johnson i’r Frenhines yn anghyfreithlon trwy rwystro’r Senedd rhag craffu ar weithredoedd y Llywodraeth yn San Steffan.
Mae’r Goruchaf Lys hefyd wedi dyfarnu fod y gwaharddiad yn “ddi-rym a heb effaith”- sy’n golygu nad yw’r Senedd bellach wedi ei chau i lawr.
“Roedd y penderfyniad i gynghori ei Mawrhydi i brorogio’r Senedd yn anghyfreithlon gan ei fod wedi cael yr effaith o rwytredigo neu atal gallu’r Senedd i weithredu ei swyddogaeth gyfansoddiadol heb gyfiawnhad teilwng,” meddai’r Arglwyddes Hale.
Roedd Boris Johnson wedi addo y byddai’n ymddiswyddo pe bai’n colli’r achos. Heddiw (dydd Mawrth, Medi 24), mae’n cyfarfod arlywydd yr Unol Daleithiau, Donald Trump, yn Efrog Newydd.
Ond mae Joanna Cherry, Aelod Seneddol De-orllewin Caeredin a ddaeth â’r achos gwreiddiol yn yr Alban yn erbyn llywodraeth San Steffan, wedi galw ar Boris Johnson i ymddiswyddo.
“Mae ei safle yn amhosib. Dylai fod â’r gyts am unwaith i wneud y peth deche ac ymddiswyddo.”