Mae mwy na dwy filiwn o bobol ym mhrifddinas Zimbabwe heb ddwr, wedi i’r awdurdodau gau safle puro yn ardal Harare.

Mae’r penderfyniad wedi peri pryder ynghylch y posibilrwydd o heintiau, yn enwedig wedi cyfres o achosion o cholera yno yn ddiweddar.

Mae llywodraeth Zimbabwe wedi bod yn cael trafferthion i godi digon o arian i fewnforio cemegion puro dwr, ac mae sychder  yn y wlad yn achosi cwymp yn y lefelau mewn argaeau.

Mae llefarydd ar ran cyngor dinas Harare yn rhybuddio y bydd pawb yn cael eu heffeithio – ac y gallai afiechydon sy’n dweud ar esgyrn y boblogaeth gael eu lledaenu gan ddwr wedi’i lygru.

Mae teiffoid yn cael ei gofnodi’n rheolaidd yn yr ardal, oherwydd prinder dwr glân a diffygion y system garthffosiaeth.