Mae cyrchoedd yn erbyn y Taliban gan luoedd Affanistan, wedi lladd beth bynnag 40 o bobol ddiniwed a oedd mewn parti priodas yn nhalaith Helmand.

Mae llefarydd ar ran yr arlywydd, Ashraf Ghani, yn dweud ei fod wedi’i dristhau o glywed am y marwolaethau nos Sul (Medi 22), a bod yr arlywydd wedi galw ar i’r fyddin, gyda chefnogaeth yr Unol Daleithiau, i fod yn “ofalus” wrth gynnal cyrchoedd o’r math.

Mae llywodraethwr talaith Helmand wedi cael cyfarwyddyd i gynnal ymchwiliad i’r digwyddiad.

Ar wahan i’r rheiny oedd yn y parti priodas, mae 12 o bobol eraill wedi’u hanafu ac wedi’u cludo i’r ysbyty yn Lashkar Gah.

Fe gafodd y cyrchoedd eu cynnal mewn dwy ardal wahanol o Musa Qala ddydd Sul, a’r gred swyddogol ydi fod 22 o ymladdwyr y Taliban wedi cael eu lladd.