Mae cwch yn cario 182 o ffaduriaid o Libya wedi cael yr hawl i ddocio yn yr Eidal yn hwyr nos Lun.

Fe gyrhaeddodd ‘The Ocean Viking’ borthladd Messina yn Sisili, gyda chefnogaeth gan y llywodraeth yn Rhufain.

Ar y tir, roedd swyddogion yr heddlu ac elusen y Groes Goch yn ars am y ffoaduriaid, wedi iddyn nhw gael eu hachub o dri bad a aeth i helynt ar y mór ar Fedi 18.

Ddoe (dydd Llun, Medi 23) fe gytunodd pump o wledydd yr Undeb Ewropeaidd – Ffrainc, yr Almaen, yr Eidal, Melita a’r Ffindir – i rannu’r baich o gynnig hafan i’r ffoaduriaid o Libya.

Ond y tu ól i’r llenni, mae trafodaethau’n digwydd er mwyn ceisio creu cynllun sy’n cynnwys mwy o wledydd yr Undeb.