Mae dau fachgen yn eu harddegau wedi ymddangos o flaen eu gwell ar ôl i fachgen arall gael ei drywanu y tu allan i fwyty KFC yng nghanol Llundain.
Fe gafodd Josiph Baker, 17, ei anafu’n ddifrifol ar Heol Edgware toc cyn 2yp ar Fedi 10. Bu farw yn yr ysbyty yn ddiweddarach.
Fe ymddangosodd y ddau fachgen 16 oed – sy’n cael eu cyhuddo o’i lofruddio – gerbron yr Old Bailey heddiw (dydd Mawrth, Medi 17). Does dim modd eu henwi oherwydd eu hoedran.
Dywedodd yr erlynydd, Timothy Cray, wrth y llys fod y bechgyn wedi arfogi eu hunain ag o leiaf un gyllell yr un yn dilyn ffrae gyda Josiph Baker am tua 11.30yb ar ddiwrnod yr ymosodiad.
Daeth yr heddlu o hyd i ddwy gyllell ar y safle ac maen nhw ar hyn o bryd yn destun prawf fforensig.
Mae’r ddau fachgen hefyd wedi cael eu hadnabod ar gamera Cylch Cyfyng ac fe fyddan nhw’n dychwelyd i’r llys er mwyn cyflwyno ple ar Ragfyr 3.
Mae disgwyl i’r achos bara o leiaf tair i bedair wythnos, ac mae disgwyl iddo ddechrau ym mis Mawrth y flwyddyn nesaf.
Cyhuddo eraill
Fe gafodd trydydd bachgen ei arestio ddydd Sul mewn cysylltiad â’r llofruddiaeth, cyn cael ei gyhuddo y bore yma, yn ôl yr Heddlu Metropolitan.
Cafodd bachgen arall, 17, hefyd ei gyhuddo mewn cysylltiad â’r digwyddiad ddoe.
Mae disgwyl i’r ddau ymddangos gerbron yr Old Bailey ddydd Iau.
Mae bachgen, 18, wedi cael ei ryddhau ar fechnïaeth ar ôl cael ei arestio yr wythnos ddiwethaf.