Fe ddylai Plaid Cymru ymgyrchu o blaid canslo Brexit mewn etholiad cyffredinol, yn ôl Adam Price.
Bydd aelodau’r blaid – sydd ar hyn o bryd yn cefnogi refferendwm arall – yn cael cyfle i bleidleisio ar y newid polisi yn y gynhadledd flynyddol ym mis Hydref.
Mae’r Democratiaid Rhyddfrydol wedi mabwysiadu polisi tebyg yn ddiweddar, ac mae arweinydd Plaid Cymru eisoes wedi dweud y dylai’r pleidiau sydd o blaid Aros fod yn barod “i dynnu Erthygl 50 yn ôl” os na fydd cyfle am refferendwm.
Refferendwm neu ganslo?
“Fel plaid, rydym yn parhau o’r farn mai’r ffordd orau o ddatrys yr anghydfod presennol yw refferendwm,” meddai Adam Price.
“Ond os daw etholiad cyffredinol cyn refferendwm, mi fydd yn gweithredu fel dirprwy ar gyfer refferendwm.
“Yn yr achos hynny, rhaid i Blaid Cymru gynnig cyfle i bobol yng Nghymru bleidleisio dros blaid sydd yn ddigamsyniol o blaid Cymru’n aros yn yr Undeb Ewropeaidd.”
Mae’r Ceidwadwyr Cymreig wedi disgrifio’r cyhoeddiad fel “cic” i bobol Cymru a bleidleisiodd o blaid Brexit.