Mae arweinydd Hong Kong, Carrie Lam, yn dweud fod cwmnïau cysylltiadau cyhoeddus o bob cwr o’r byd wedi gwrthod ceisiadau’r llywodraeth i helpu adfer enw da’r ddinas ar ôl misoedd o brotestiadau o blaid democratiaeth.
Mae’r cwmnïau yn dwed “nid dyma’r amser iawn” gan nad yw’r trais a’r aflonyddwch yn nhiriogaeth lled-ymreolaethol Tsieineaidd wedi dangos unrhyw arwydd o ddod i ben.
Ddyddiau wedi i fwy na miliwn o bobol fynd alla i’r strydoedd i wrthwynebu mesur estraddodi a fyddai’n golygu y byddai’n rhaid i bobol y ddinas ymddangos gerbron llysoedd Tsieina, mae’r protestiadau bellach yn ymladd tros ddemocratiaeth yn ehangach.
“Efallai nad hon fyddai’r ffordd fwyaf cost-effeithiol i ddefnyddio adnoddau’r llywodraeth i lansio unrhyw ymgyrch i ailadeiladu enw da Hong Kong, ond yn hwyr neu’n hwyrach, bydd yn rhaid i ni wneud hynny oherwydd mae gen i bob hyder yn hanfodion Hong Kong,” meddai Carrie Lam.
“Fe ddaw’r amser i ni lansio ymgyrch fawr i adfer peth o’r difrod a wnaed i enw da Hong Kong.”