Mae’r heddlu sy’n ymchwilio i dân Tŵr Grenfell wedi bod yn holi cannoedd o weithwyr Brigâd Dân Llundain.
Mae’r gwasanaeth tân wedi cadarnhau iddyn nhw, fel corff corfforaethol, fod yn rhan o’r ymchwiliad i’r digwyddiad ym mis Mehefin 2017 pan gafodd 72 o bobol eu lladd.
Yn ôl Comisiynydd Tân Llundain, Dany Cotton, roedd y brigâd wedi rhoi cyfweliad “o dan rybudd” i’r heddlu mewn cysylltiad â’r Ddeddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle.
Dywedodd hefyd fod goroeswyr a theuluoedd yr ymadawedig “angen atebion” a bod y gwasanaeth tân yn barod i helpu’r ymchwilwyr.
Mae “cannoedd o ymladdwyr tân a swyddogion eisoes wedi darparu cyfweliadau gwirfoddol” i’r heddlu, ychwanegodd.
Mae’r grŵp Grenfell United, sy’n ymgyrchu o blaid goroeswyr a theuloedd y meirw, wedi dweud bod cynnwys y brigâd dân yn yr ymchwiliad yn “gam cywir”.
Ymchwiliad yr heddlu
Mae’r Heddlu Metropolitan wedi datgelu bod 13 o gyfweliadau wedi cael eu cynnal ‘o dan rybudd’ oddi ar y tân yn 2017.
Ond dyw’r heddlu ddim wedi nodi faint o unigolion oedd yn rhan o’r cyfweliadau hyn, nac os byddan nhw’n cynnal rhagor.
Ond mae dros 7,100 o ddatganiadau wedi cael eu creu diolch i dystion, y gymuned leol a swyddogion y gwasanaethau brys, medden nhw.
Ym mis Mawrth, fe ddywedodd yr heddlu na fyddan nhw’n cyflwyno unrhyw gyhuddiadau am o leiaf y ddwy flynedd nesaf, gan ddadlau bod angen i adroddiad terfynol yr ymchwiliad swyddogol i’r tân gael ei gyhoeddi yn gyntaf.
Mae disgwyl i ail ran yr ymchwiliad ddechrau yn y flwyddyn newydd.