Mae David Cameron, cyn-brif weinidog Prydain, yn dweud nad yw Boris Johnson, y prif weinidog presennol, wir yn credu y dylai Prydain adael yr Undeb Ewropeaidd, a’i fod e wedi cefnogi Brexit er mwyn datblygu ei yrfa wleidyddol ei hun.
Mae’n dweud yn ei hunangofiant newydd, sy’n cael ei gyhoeddi fesul dipyn yn y Sunday Times, fod Boris Johnson o’r farn ar un adeg y gellid sicrhau trafodaethau newydd ac ail refferendwm.
Ond mae’n dweud erbyn hyn nad yw’n credu y dylid cael y naill na’r llall.
Mae David Cameron hefyd yn cyhuddo Michael Gove o fod yn gefnogwr Nigel Farage ac o fod yn “anffyddlon”.
Mae’n cyhuddo’r ddau o “ddechrau rhyfel” yn ei erbyn, gan ddweud eu bod yn euog o “ddweud celwydd” wrth y cyhoedd adeg y refferendwm yn 2016.
“Y casgliad sydd ar ôl i fi ei dderbyn yw ei fod e wedi cymryd risg o gael canlyniad nad oedd e’n credu ynddo oherwydd y byddai’n helpu ei yrfa wleidyddol,” meddai.
Mae’n dweud bod y ddau wedi ymddwyn yn “ffiaidd”, gan droi ar eu llywodraeth eu hunain.
Ymhlith y rhai eraill sy’n ei chael hi ganddo fe yn y gyfrol yw Priti Patel a Dominic Cummings.