Mae dyn 29 oed wedi cael ei drywanu i farwolaeth yng ngogledd Llundain.
Cafwyd hyd iddo yn ardal Edmonton yn Enfield neithiwr (nos Sadwrn, Medi 14).
Cafodd y gwasanaeth ambiwlans ei alw, ond fe fu farw’r dyn yn y fan a’r lle toc ar ôl 9 o’r gloch.
Mae Heddlu Llundain yn cynnal ymchwiliad i’w lofruddiaeth, ac mae dyn 40 oed wedi cael ei arestio mewn perthynas â’r digwyddiad ac yn cael ei holi yn y ddalfa.
Mae’r heddlu’n apelio am dystion ac yn ceisio adnabod y dyn fu farw er mwyn rhoi gwybod i’w deulu.