Mi allai unrhyw ymgais i anwybyddu ewyllys y senedd – a chyflawni Brexit heb gytundeb fis nesaf – gael ei rhwystro gan “greadigrwydd”.
Dyna’r rhybudd mae Llefarydd Tŷ’r Cyffredin, John Bercow, wedi ei gyfeirio at Brif Weinidog y Deyrnas Unedig, Boris Johnson.
Bellach mae Aelodau Seneddol wedi pleidleisio tros orfodi Boris Johnson i ofyn am estyniad i ddyddiad terfyn Brexit – os nad yw’r senedd wedi cymeradwyo gadael cyn diwedd fis nesaf.
Ac wrth ymateb i awgrymiadau y gall y Prif Weinidog anwybyddu ewyllys Tŷ’r Cyffredin, mae John Bercow wedi cynnig rhybudd yn blwmp ac yn blaen.
“Creadigrwydd trefniadol”
Pe bai Boris Johnson yn rhoi cynnig ar hynny, mae Llefarydd y Tŷ wedi dweud y byddai’r senedd “eisiau rhwystro’r fath gam, ac yn gwneud hynny’n gadarn.”
“Os bydd angen rhagor o greadigrwydd trefniadol i gefnogi hynny, sicrwydd llwyr yw y bydd hyn yn digwydd. A bydd cyfyngiadau’r llyfr rheolau nac amser yn atal hynny.”
Cafodd y senedd ei hatal dros dro gan Boris Johnson ar ddechrau’r wythnos, ac mae’r cam wedi denu cryn feirniadaeth.