Mae dyn wedi marw ac mae un arall yn yr ysbyty ar cael eu trywannu yn Llundain.

Cafodd yr heddlu eu galw i Stryd Fawr Camden toc wedi 11yh nos Iau (Medi 12) lle cafwyd hyd i ddyn oedd wedi cael ei drywannu. Er gwaetha ymdrechion i’w achub bu farw yn y fan a’r lle, meddai Scotland Yard.

Cafodd ail ddyn, sydd yn ei ugeiniau, ei ddarganfod gerllaw gydag anafiadau ar ol cael ei drywannu. Cafodd ei gludo i ysbyty yn Llundain.

Nid oes unrhyw un wedi cael eu harestio hyd yn hyn ac mae’r heddlu’n apelio am wybodaeth.

Dywed yr heddlu bod gorchymyn mewn grym ym mwrdesitref Camden sy’n caniatau’r heddlu i stopio a chwilio unrhyw un.