Mae graddfa cyflogaeth y Deyrnas Unedig yn uwch nag erioed o’r blaen tra mae cyflogau yn dal i godi, yn ôl ffigyrau newydd.
Cododd y nifer o bobol mewn gwaith 31,000 i 32.78 miliwn yn y tri mis cyn Gorffennaf, yn ôl Swyddfa Ystadegau Gwladol.
Ond roedd y tyfiant yn llai na’r 55,000 yr oedd dadansoddwyr wedi ei ragweld.
Yn y cyfamser, mae diweithdra ar ei lefel isaf mewn 45 mlynedd.
Disgynnodd y nifer o bobol sydd o waith 11,000 i 1.29 miliwn yn ystod y chwarter diwethaf sydd wedi cadw’r canran o bobl allan o waith ar 3.8%
Ond mae’r nifer o swyddi gwag wedi disgyn 23,000 i 812,00 gan arwain at ofidion o arafu economaidd