Mae Sajid Javid, Canghellor San Steffan, yn gwrthod wfftio’r posibilirwydd y gallai’r Ceidwadwyr daro bargen â Phlaid Brexit mewn etholiad cyffredinol.

Ond mae’n dweud nad oes “angen” bargen o’r fath ar y Ceidwadwyr.

Daw ei sylwadau ar raglen Andrew Marr ar y BBC, yn dilyn ymddiswyddiad Amber Rudd o’r Cabinet.

Mae’n dweud ei fod yn cefnogi’r alwad am etholiad cyffredinol, er gwaetha’r amseru “trist”.

“Yn sicr, mae angen etholiad cyffredinol arnon ni nawr,” meddai.

“Mae’n cael ei orfodi arnom ni oherwydd mae’r Senedd yn ceisio hollti’r trafodaethau hyn.”

Cydweithio â Phlaid Brexit?

Mae lle i gredu bod Boris Johnson, prif weinidog Prydain, eisoes yn wfftio’r posibilrwydd o gydweithio â Phlaid Brexit – yn gyfrinachol, o leiaf.

“Does dim angen cynghrair etholiadol arnom ni gydag unrhyw un,” meddai Sajid Javid.

“Gallwn ni sefyll ar ein traed ein hunain, a chyfleu ein neges.”

Mae’n cyhuddo’r gwrthbleidiau o “ddarlunio darlun ffals” o’r blaid a’r llywodraeth.