Therese Coffey yw Ysgrifennydd Gwaith a Phensiynau newydd San Steffan.
Daw ei phenodiad oriau’n unig ar ôl i Amber Rudd adael Cabinet Llywodraeth Prydain a’r Blaid Geidwadol yn sgil yr hyn mae hi’n ei alw’n ddiffyg cynllunio ar gyfer Brexit.
Cafodd Therese Coffey ei hethol yn aelod seneddol tros etholaeth Arfordir Suffolk yn 2010, ac mae hi’n gyn-ddirprwy arweinydd Tŷ’r Cyffredin ac yn gyn-Weinidog yr Amgylchedd yng nghabinet Theresa May.
Roedd hi o blaid aros yn yr Undeb Ewropeaidd adeg y refferendwm yn 2016, ac yn gwrthwynebu cyfreithlonni priodasau hoyw yn 2013.
Mae hi’n dweud mai Margaret Thatcher yw ei harwres.
Ymddiswyddodd Amber Rudd ar ôl awgrymu bod Llywodraeth Prydain yn bwriadu tynnu’r Deyrnas Unedig allan o’r Undeb Ewropeaidd heb gytundeb.
Ond mae hi wedi llongyfarch ei holynydd, gan ddweud y bydd hi’n “gwneud gwaith gwych” yn y swydd.