Mae Syr Nicholas Soames, ŵyr i Winston Churchill ac un o’r 21 o Doriaid a gafodd eu diarddel yr wythnos yma, wedi ymosod yn hallt ar ei hen blaid.

“Mae’r Blaid Dorïaidd a arferai fod yn bragmataidd, synhwyrol a rhesymol yn cychwyn edrych fel sect Brexit,” meddai’r gŵr sydd wedi cynrychioli canol Sussex fel AS ers 37 mlynedd.

Roedd yn arbennig o ddirmygus o gymariaethau rhwng y Prif Weinidog presennol a Winston Churchill.

“Roedd Winston Churchill yr hyn oedd oherwydd ei brofiadau mewn bywyd,” meddai.

“Profiad Boris Johnson mewn bywyd yw dweud llawer o ‘porkies’ am yr Undeb Ewropeaidd ym Mrwsel ac wedyn dod yn Brif Weinidog.

“Dw i ddim yn meddwl bod neb wedi galw Boris yn ddiplomat nac yn wladweinydd. Nid yw’n hoffi Tŷ’r Cyffredin. Ei obsesiwn yw Brexit: dod allan waeth beth fo’r gost, doed a ddelo.

“Fe fyddai Churchill yn rhyfeddu pe baen ni’n meddwl ein bod ni mor llwyddiannus, mor bwerus, mor uchel ein parch yn y byd fel y gallen ni fforddio rhoi’r gorau i’r berthynas ryfeddol sydd gennym yn yr Undeb Ewropeaidd.”

Roedd hefyd yr un mor ddirmygus o Jacob Rees-Mogg, arweinydd y Tŷ, a oedd wedi cael ei feirniadu am orweddian ar fainc flaen y Llywodraeth yr wythnos yma:

“Mae’n dwyllwr llwyr, mae’n esiampl byw o’r hyn y gall siwt brest-dwbl a thei go dda ei wneud gyda llais ‘ultra-posh’ a darn o sinsir i fyny ei din,” meddai.