Mae’r gwrthbleidiau yn San Steffan wedi cytuno na fyddan nhw’n cefnogi ail ymdrech Boris Johnson i sicrhau etholiad cyffredinol.
Fe wnaeth yr arweinydd Llafur, Jeremy Corbyn, a’r gwrthbleidiau eraill gyfarfod heddiw (dydd Gwener, Medi 6) er mwyn trafod eu gwrthwynebiad i’r syniad o gynnal etholiad cyn bod Brexit heb gytundeb wedi ei atal.
Mae disgwyl i’r Blaid Lafur, y Democratiaid Rhyddfrydol, yr SNP a Phlaid Cymru naill ai pleidleisio yn erbyn neu gadw eu pleidlais yn ôl pan fydd ail gynnig yn dychwelyd i Dŷ’r Cyffredin ddydd Llun.
Daw eu penderfyniad yn ystod ymweliad y Prif Weinidog â Swydd Efrog a’r Alban ddoe a heddiw mewn ymgais i ennill cefnogaeth ymhlith pleidleiswyr.
Yn ôl arweinydd yr SNP, Ian Blackford, mae Boris Johnson yn “torri ei fol eisiau etholiad”, ond mae’n rhaid sicrhau estyniad i Erthygl 50 cyn y gall hynny ddigwydd, meddai wedyn.
Mae Boris Johnson yn mynnu y bydd gwledydd Prydain yn gadael yr Undeb Ewropeaidd ar Hydref 31, doed a ddêl.