Mae Canghellor yr Almaen wedi dweud fod yn rhaid i hawliau trigolion Hong Kong gael eu gwarchod ac mai drwy drafodaethau – yn hytrach na thrais – y gall yr argyfwng gwleidyddol ddod i derfyn yno.
Bu Angela Merkel yn cyfarfod Li Keqiang y bore yma (Medi 6), a bydd hi’n cynnal cyfarfod gydag Arlywydd China Xi Kinping yn hwyrach heddiw.
Mae Angela Merkel yn wynebu’r dasg o gadw’r balans rhwng gofidion am hawliau dynol a thrafodaethau economaidd gyda China, un o bartneriaid masnachu mwyaf yr Almaen.
Yn ystod cynhadledd i’r Wasg efo Li Keqiang dywedodd Angela Merkel: “Dw i wedi pwysleisio yn ystod ein trafodaethau fod yn rhaid i hawliau pobl Hong Kong gael eu gwarchod.”