Mae bachgen 16 ed wedi ymddangos gerbron llys yn Blackburn wedi’i gyhuddo o ymosod ar gymhorthydd addysg a gafwyd wedi’i thagu mewn mynwent.
Mae’r dyn ifanc, na ellir ei enwi am resymau cyfreithiol, wedi’i gyhuddo o lofruddio Lndsay Birbeck, 47 oed.
Fe nodiodd y bachgen ei ben pan ofynnwyd iddo gan y llys os oedd yn ddinesydd Prydeinig.
Mae wedi’i gyhuddo o lofruddiaeth rhwng Awst 12 a 24.
Ni chafodd plê ei chyflwyno, ac mae’r bachgen wedi’i gadw mewn canolfan ddiogel.