Mae Michel Barnier, prif drafodwr Brexit yr Undeb Ewropeaidd, yn dweud nad yw’n “optimistaidd” y gall Prydain adael gyda chytundeb.
Mae e wedi ailadrodd ymrwymiad yr Undeb Ewropeaidd i’r Cytundeb Ymadael sydd eisoes wedi’i gynnig ac sy’n cynnwys cynlluniau dadleuol ar gyfer ffiniau Iwerddon, sydd yn annerbyniol gan Boris Johnson, prif weinidog Prydain.
Mae cynlluniau’r Undeb Ewropeaidd yn ceisio osgoi ffin galed yn Iwerddon, meddai Michael Barnier, sy’n mynnu yn y Sunday Telegraph nad oes modd cynnig rhagor o “hyblygrwydd”.
Ond mae Boris Johnson yn dweud wrth y Sunday Times fod rhaid i Brydain “ddod allan o garchar y bac-stop”.
“Mae pawb yn deall yr hyn sydd o’i le ar y cytundeb ymadael presennol,” meddai Boris Johnson.
“Mae’n cadw’r Deyrnas Unedig ynghlwm wrth yr Undeb Ewropeaidd.
“Mae’n golygu y gallan nhw ein rheoli ni ar bolisi masnach neu ar y ffordd yr ydyn ni’n deddfu am byth.”
Daw ei sylwadau ar ddechrau wythnos dyngedfennol wrth i wrthwynebwyr dim cytundeb geisio cipio rheolaeth ar yr agenda seneddol i geisio gohirio Brexit y tu hwnt i Hydref 31.
Cam ymlaen?
Mae Boris Johnson yn dweud bod “arwyddion diddorol o gynnydd” yn dilyn trafodaethau ag arweinwyr Ewrop yn Paris, Berlin a’r G7.
Ond mae’n lladd ar y rhai sydd am geisio gohirio ymadawiad heb gytundeb.
“Dw i’n dweud wrth bawb yn y wlad, gan gynnwys pawb yn y senedd, mai dyma’r dewis sylfaenol: ydych chi’n mynd i ochri â Jeremy Corbyn a’r sawl sydd am ganslo’r refferendwm?” meddai.
“Ydych chi’n mynd i ochri â’r rhai sydd am ddileu dyfarniad democrataidd y bobol, a chreu annhrefn yn y wlad hon?”
Ond fe ddywedodd Boris Johnson wrth gydweithwyr yr wythnos ddiwethaf mai “cael a chael” fyddai hi o ran sicrhau cytundeb cyn ymadael.
Barn Michel Barnier
Mae Michel Barnier, yn y cyfamser, yn llai optimistaidd am y sefyllfa, gan fynnu bod rhaid i’r bac-stop fod yn ei le.
“Dw i ddim yn optimistaidd am osgoi sefyllfa heb gytundeb, ond dylem oll barhau i weithio’n ddyfal.
“Ar ochr yr Undeb Ewropeaidd, fe gawson ni drafodaethau dwys â gwledydd yr Undeb Ewropaidd am yr angen i sicrhau gonestrwydd marchnad sengl yr Undeb Ewropeaidd, tra’n cadw’r ffin yn llwyr agored.
“Yn yr ystyr yma, y bacstop yw’r hyblygrwydd mwyaf y gall yr Undeb Ewropeaidd ei gynnig i wladwriaeth nad yw’n aelod.”
Fel rhan o’r bac-stop, gallai Gogledd Iwerddon geisio cytundebau masnach fel rhan o’r farchnad sengl pe na bai’r Deyrnas Unedig a’r Undeb Ewropeaidd yn cytuno ar gytundeb masnach ar ôl Brexit.”