Mae cannoedd o bobl wedi cynnal protest a gorymdaith heb ei awdurdodi ynghanol Mosgow yn dilyn gwrthdystiad pan gafodd miloedd o bobl eu cadw a nifer eu curo gan yr heddlu.
Cynhaliwyd y brotest heddiw, fel rhai o’r blaen, oherwydd fod rhai ymgeiswyr annibynol a rhai eraill wedi cael eu gwahardd rhag sefyll yn etholiad cyngor dinas Moscow ar Fedi 8.
Roedd rhai o’r gwrthdystwyr a orymdeithiodd i lawr stryd goediog Boulevard Ring yn cario placardiau yn mynnu fod carcharorion gwleidyddol yn cael eu rhyddhau.
Mae 14 o bobol a arestiwyd mewn protestiadau cynharach yn wynebu cyhuddiadau a allai olygu eu bod yn cael eu carcharu am hyd at wyth mlynedd.
Mae’r protestiadau yn cynnwys un gafodd ei gwahardd yn gynharach y mis yma a fynychwyd gan tua 60,000 o bobol, y gwrthdystiad mwyaf yn Rwsia ers 2011-12.
Er nad oes gan gyngor y ddinas lawer o bwerau, mae gwahardd yr ymgeiswyr wedi ychwanegu at rwystredigaeth y cyhoedd ynglŷn â diffyg democratiaeth y wlad gyda etholiadau.