Mae degau o filoedd wedi ymuno mewn protestiadau yng Nghymru, yr Alban a Lloegr wrth i ymgyrchwyr ddangos eu gwrthwynebiad i gynlluniau’r Prif Weinidog i ystyried Brexit heb gytundeb – a chau drysau San Steffan am gyfnod.

Roedd torf sylweddol ynghanol Caerdydd, ac fe ddaeth tua 500 i’r gwrthdystiad ym Mangor. Trefnwyd protest arall yng Nghaernarfon nos Wener. Roedd cannoedd hefyd ym Mae Colwyn a 2,500 yn Aberystwyth.

Bydd Jeremy Corbyn yn annerch protest debyg yn Glasgow heddiw.

Roedd y protestiadau ymhlith nifer fawr i’w cynnal heddiw n gan ymgyrchwyr gwrth-Brexit.

Mae Llywodraeth Prydain wedi ategu eu bod yn ceisio sicrhau cytundeb ar adael yr Undeb Ewropeaidd, ac wedi dweud y bydd gan San Steffan ddigon o amser i drafod Brexit.

Dywedodd Ysgrifennydd Cymru Alun Cairns: “Dwi ddim yn gwybod pam mae pobl yn cwyno.”

Yn ôl Mr Cairns: “Tri diwrnod ychwanegol mae’r Senedd wedi ei chau – mae digon o amser wythnos ‘nesa i drafod Brexit”

Ymyrraeth gan Lywodraeth Cymru

Datgelodd Cwnsler Cyffredinol Cymru Jeremy Miles ei fod yn “ymyrryd mewn achos cyfreithiol yn yr uchel lys ac yn cefnogi her gyfreithiol Gina Miller yn erbyn cyngor y Prif Weinidog i’r Frenhines i ohirio Senedd y DU.”

Mae Ms Miller, ar y cyd a’r cyn brif Weinidog John Major, a dirpwy y Blaid Lafur Tom Watson, yn gobeithio atal cynlluniau Boris Johnson i gwtogi’r amser fydd ar gael i Aelodau Seneddol gwrdd ym mis Medi.

Dywedodd Mr Miles: “Mae’r Cynulliad wedi cydsynio i ddeddfwriaeth sy’n gysylltiedig â Brexit yn y Senedd sy’n effeithio ar feysydd datganoledig ar y sail y byddai’r Senedd yn gallu parhau i eistedd i basio’r deddfau hynny.

“Mae gohirio Senedd y DU yn amddifadu ASau o’r cyfle i graffu’n briodol ar Lywodraeth y DU, ac i ddeddfu ar y telerau a fyddai’n galluogi’r DU i adael yr UE pe dymunent.

“Mae gan Aelodau’r Cynulliad yma yng Nghymru rôl hanfodol hefyd o ran cynghori’r Senedd ar sut y bydd Brexit heb gytundeb yn effeithio ar elfennau craidd yr economi a chymunedau yng Nghymru. Ni ellir gwneud hyn os yw’r Prif Weinidog wedi torri’r llinellau cyfathrebu.

“Nid ar chwarae bach yr wyf yn gwneud yr ymyrraeth hon. Fel Swyddog y Gyfraith, mae dyletswydd arnaf i gynnal rheolaeth y gyfraith a’r cyfansoddiad. Mae’r cyflwyniadau yr wyf wedi’u cyflwyno yn y Llys yn angenrheidiol, yn briodol, ac yn gymesur i amddiffyn buddiannau Cymru o ran sicrhau bod y Senedd yn cael eistedd.

“Nid yw fy ymyrraeth yn ailadrodd pwyntiau a wnaed gan yr Hawlydd, Gina Miller; nid ydynt chwaith yn ceisio’r hawl, ar hyn o bryd, i wneud cyflwyniadau llafar. Fy mwriad yw cynorthwyo’r Llys i benderfynu ar y materion cyfreithiol, ac egluro pam eu bod yn hanfodol bwysig i Gymru, ei phobl a’i deddfwrfa.”

Gwaeddodd protestwyr “Shame on you” at Boris Johnson y tu allan i Stryd Downing Street a daeth traffig i stop yn San Steffan oherwydd cymaint oedd y torfeydd.

Dywedodd grwp ymgyrchu gwrth-Brexit Another Europe Is Possible fod yna 32 o brotestiadau wedi eu trefnu ar hyd a lled y Deyrnas Gyfunol heddiw. Mae nhw hefyd wedi galw am gynnal protestiadau tebyg yn ddyddiol.

Daeth rhagor na 1,000 o brotestwyr i ddinasoedd yn cynnwys Abertawe, Efrog, Manceinion, Newcastle, Bryste, Birmingham, Lerpwl, Leeds, Belffast ac Aberdeen.