Mae amynedd pobol gwledydd Prydain yn mynd yn llai a llai, diolch i gyfleusterau modern fel y cyfryngau cymdeithasol a chyflymder y We, yn ôl ymchwil newydd.
Mae tri chwarter y 2,000 o oedolion a gyfrannodd at astudiaeth y cwmni marchnata, BIC UK and Ireland, yn nodi bod datblygiadau technegol fel e-docynnau, ffonau clyfar a theledu ar-alw yn eu gwneud yn fwy diamynedd.
Fe gafodd yr ymchwil ei gynnal wrth i’r cwmni lansio math newydd o feiros jêl, sef y BIC Gel-coity Quick Dry Gel pens, ar gyfer sgrifennwyr sydd wedi hen alaru ar aros i inc sychu ar bapur – gydag aros 20 eiliad yn ddigon o rwystredigaeth i rai, meddai’r arolwg.
Ffeithiau eraill
Ymhlith darganfyddiadau eraill yr arolwg mae’r ffaith bod gyrwyr yn dechrau mynd yn ddiamynedd wrth aros dim ond 25 eiliad i oleuadau traffig newid.
Mae aros 22 eiliad i raglen deledu neu ffilm lwytho ar-lein yn ddigon i dynnu gwallt o bennau pobol, ac mae oedi o 35 munud wrth aros am drên yn ddigon i wylltio rhai eraill.
Ond pan mae’n dod at dderbyn llythyr personol drwy’r post, mae pobol yn fodlon aros 3.7 diwrnod amdano, meddai’r arolwg ymhellach.
“Diolch i dechnoleg, mae bywyd modern yn symud yn gynt nag erioed, ond mae’n ymddangos ein bod ni’n dal i fod yn barod i aros ychydig yn hwy am lythyr personol hen ffasiwn,” meddai llefarydd ar ran BIC UK and Ireland.