Mae Aelod Seneddol Dwyfor Meirionnydd wedi canmol cyfraniad parc carafanau i economi ardal Meirionydd, wrth iddi agor derbynfa newydd ym Mharc Carafanau Pen-y-Garth, y Bala.
Mae’r maes carafanau yn fusnes teuluol ac yn rhan o gwmni Parciau Gwyliau’r Bala, sy’n eiddo i ŵr a gwraig, sef Gareth a Sioned Williams.
Am 19 mlynedd yn olynol, mae’r busnes wedi ennill gwobr David Bellamy am gadwraeth. Mae hefyd wedi cipio gwobr ‘parc gorau yng Nghymru’.
Mae’r teulu yn berchen ar bedwar parc tebyg yn ardal y Bala.
Ysgogi’r sector twristiaeth
Yn ôl Liz Saville Roberts, mae “buddsoddiad parhaus” mewn datblygiadau fel Pen-y-Garth yn ysgogiad i’r sector twristiaeth yn ardal Dwyfor Meirionnydd.
“Mae effaith ganlyniadol parc gwyliau llwyddiannus fel Pen-y-Garth, o ran creu swyddi a buddsoddi yn yr ardal, yn arwyddocaol iawn,” meddai.
“Mae cyfleusterau twristiaeth a pharciau gwyliau lleol yn gwneud cyfraniad sylweddol i’r ardal, gan greu cannoedd o swyddi tra’n hyrwyddo harddwch Eryri.
“Roeddwn yn ddiolchgar o’r cyfle i drafod pwysigrwydd y sector twristiaeth leol a sut orau i fanteisio ar y budd a ddaw yn ei sgil i gymunedau lleol ac economi ehangach Cymru.
“Mae hwn yn fuddsoddiad i’w groesawu yn niwydiant twristiaeth ffyniannus Meirionnydd, ac rwy’n canmol teulu Williams am eu gweledigaeth a’u hymrwymiad parhaus i’r economi leol, gan ddod o hyd i ffyrdd arloesol newydd o gynyddu refeniw twristiaeth i’r eithaf.”