Mae tua hanner rhieni gwledydd Prydain eisiau i ysgolion eu plant wahardd ffonau symudol mewn ysgolion, yn ôl astudiaeth newydd.
Mae’r arolwg gan wasanaeth cymharu prisiau uSwitch.com yn dangos fod 49% eisiau gweld gwaharddiad, a hynny oherwydd pryder ynghylch diogelwch a’r ffordd maen nhw’n tynnu sylw’r plant oddi ar waith ysgol.
Yn ôl 88% o rieni maen nhw’n poeni am eu plant yn mynd i’r ysgol gyda chymaint o dechnoleg ddrud, gyda’r ymchwil yn dangos fod plentyn arferol yn cario gwerth £301 o ddyfeisiau.
Mae 27% o rieni hefyd yn dweud eu bod nhw wedi ystyried cael ffonau symlach i’w plant yn hytrach na ffonau smart.
Daw’r astudiaeth yng nghanol trafodaethau cyhoeddus am yr effaith mae gormod o amser o flaen sgrin yn ei gael ar iechyd meddwl a lles cyffredinol pobol ifanc.
Mae Aelodau Seneddol ac ymgyrchwyr yn pwyso am reoleiddio mwy o gwmnïau technoleg i helpu i hybu diogelwch defnyddwyr.
Yn ôl yr ymchwil, mae rhieni yn gwario £1.4 biliwn ar ddyfeisiau electronig ar gyfer y tymor ysgol newydd, cynnydd o £1.2bn i 2016, gyda ffonau clyfar, tabledi a gliniaduron yr eitemau mwyaf cyffredin.