Mae tri dyn sydd wedi eu cyhuddo o ymosod ar y newyddiadurwr Owen Jones, wedi eu rhyddhau ar fechnïaeth.

Roedd colofnydd 35 oed y Guardian, wedi bod yn dathlu ei ben-blwydd gyda’i ffrindiau pan ymosodwyd arno yn oriau mân fore Awst 17.

Mewn apêl am wybodaeth, dywedodd Scotland Yard fod ditectifs yn ceisio darganfod os mai casineb oedd wedi ysgogi’r “ymosodiad disynnwyr llwyr” tu allan i dafarn y Lexington yn Islington, gogledd Llundain.

Cafodd y tri dyn – 39, 35 a 29 oed – eu harestio ar amheuaeth o ymosod gan achosi niwed corfforol ddoe (dydd Iau, Awst 29) ar ôl mynd at yr heddlu o’u gwirfodd.

Mae’r tri wedi eu rhyddhau ar fechnïaeth fore heddiw (dydd Gwener, Awst 30) tan ddiwedd fis Medi, ac mae’r achos wedi cael ei basio gan yr heddlu i Wasanaeth Erlyn y Goron.