Bydd pobol sy’n hŷn na 60 oed yn cael grant o £4,000 gan Lywodraeth Cymru at y gost o astudio gradd Meistr.
Y bwriad yw gwneud addysg uwch yn fwy agored a cheisio cael graddedigion i aros neu i ddychwelyd i Gymry, yn ôl y Llywodraeth.
I wneud cais am yr arian o bot gwerth £1.3m, mae’n rhaid i ddarpar fyfyrwyr fod yn byw yng Nghymru ac yn astudio mewn prifysgol yma.
Fe fydd y grant ar gael fis nesaf ac mae wedi ei groesawu gan Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr.
“Toriadau yn bob man”
Mae swyddog gydag un o’r undebau addysg yng Nghymru yn credu bod angen bod yn ofalus o ran sut mae’r arian yn cael ei rannu, “mewn byd lle mae toriadau yn bob man”.
Roedd y swyddog yn pwysleisio nad oedd yn siarad ar ran ei gyflogwr.
“Mae’n rhaid cyfaddef rydw i’n croesawu’r bobol o’r oedran hynny i fynd yn ôl i addysg. Mae’n help i gadw meddyliau yn chwim a chadw pobol yn weithredol,” meddai’r Swyddog wrth golwg360.
“Ond mae’n dibynnu lle mae’r cyllid yn dod. Mewn byd lle mae toriadau yn bob man, mae’n rhaid meddwl lle ddylai’r pres fynd. Mae yna ddadl o ran dylai’r arian fynd i bobol ifanc.”
Mae’r swyddog undeb yn “eistedd ar y ffens” ar y mater ar hyn o bryd ac yn disgwyl clywed am y manylion llawn ac amodau’r rhaglen.
“Alla i ddim anghytuno gyda’r egwyddor. Mae syniad y peth yn iawn ond bydd yn rhaid cael manylion llawn am gyllid addysg yng Nghymru yn gyffredinol.
“Yn sicr, nid ydyn ni eisiau gweld toriadau i ysgolion a myfyrwyr sydd yn dechrau ar gyrsiau newydd.”
Y grant “o fudd i’n heconomi”
Dywedodd llefarydd ar ran Lywodraeth Cymru:
“Credwn y dylai astudio Ôl-raddedig fod yn opsiwn sydd ar gael i bob myfyriwr graddedig yng Nghymru, waeth beth ei hoedran.
“Roedd cyflwyno hawl i ddysgu gydol oes yng Nghymru yn rhan allweddol o’r Cytundeb Blaengar rhwng y Prif Weinidog a’r Gweinidog Addysg. Mae’r bwrsariaethau hefyd yn cyfrannu at ein hymrwymiad i adeiladu uchelgais ac annog dysgu am oes, a nodir yn y Cynllun Gweithredu Economaidd.
“Gall dysgu gydol oes gynnig buddion i unigolion trwy gydol eu datblygiad personol neu yrfaol, yn ogystal â bod o fudd i’n heconomi a’n cymdeithas ehangach.”