Mae ymgyrchwyr iaith yn mynnu y byddai Brexit heb gytundeb yn “drychinebus” i’r ardaloedd gwledig Cymraeg.

Daw’r rhybudd yn dilyn penderfyniad Prif Weinidog Prydain, Boris Johnson, i gau’r Senedd am gyfnod cyn Brexit.

Bydd holl gyfarfodydd y Senedd yn cael eu gohirio rhwng yr ail wythnos ym mis Medi tan ddiwrnod Araith y Frenhines ar Hydref 14.

Mae disgwyl i wledydd Prydain adael yr Undeb Ewropeaidd ar Hydref 31.

Peryg i’r iaith “golli ei hasgwrn cefn”

Yn ôl Heini Gruffudd, Cadeirydd Dyfodol i’r Iaith, mae’n “gonsensws clir bellach mai trychineb i economi cefn gwlad Cymru fydd gadael yr Undeb Ewropeaidd heb fath o gytundeb.

“Dyma’r union ardaloedd, wrth gwrs, sy’n parhau i gynnal y Gymraeg fel iaith fyw ac o ddinistrio’r economi hon, mae’r iaith yn colli ei hasgwrn cefn,” meddai.

“Nodwn yn ogystal golled cefnogaeth yr Undeb Ewropeaidd i ieithoedd llai ac i hyrwyddo cysylltiadau economaidd er lles y rhanbarthau gwledig.

“Wrth gydnabod y berthynas allweddol rhwng economi, iaith a diwylliant, byddwn yn galw ar Lywodraeth Cymru, ac ar bawb sy’n cefnogi ffyniant y Gymraeg i’w gwneud yn gwbl eglur i Lywodraeth San Steffan nad ydym yn fodlon derbyn y fath ymddygiad diegwyddor a dinistriol.”