Mae lleidr a gymerodd fws heb ganiatad er mwyn mynd am dro o gwmpas County Durham yn y nos, wedi cael ei garcharu.
Fe achosodd Shane Youll werth £2,000 o ddifrof wedi iddo fynd â’r cerbyd Stagecoach i mewn i reilings cyn cael ei stopio gan yr heddlu.
Toc wedi 1yb ar Ionawr 6 eleni, fe gerddodd Shane Youll, o Stanley, County Durham, i mewn i ganolfan fysiau Stagecoach yn South Shields a thorri i mewn i un o’r cerbydau.
Fe aeth, wedyn, am dro o gwmpas ardal South Tyneside, gan ddreifio ar y pafin a malu drws y bws pan darodd i mewn i ffens fetel ar ymyl y ffordd.
Fe gafodd yr heddlu eu galw pan seiniodd larwm yn y ganolfan fysus, ac fe ddaethon nhw o hyd i’r lleidr yn y bws yn aros i oleuadau traffig droi yn South Shields.
Mae Shane Youll wedi cael ei ddedfrydu i ddeg wythnos o garchar gan Lys Ynadon Sunderland, ac mae wedi derbyn dirwy o £2,025. Mae hefyd wedi’i wahardd rhag gyrru am flwyddyn a hanner.