Mae grwp a fu’n trafod heddwch ar ran lluoedd arfog Colombia (FARC) yn dweud eu bod ar fin ail-gydio yn eu harfau. Maen nhw’n dweud fod y broses heddwch a gafodd ei sefydu yn 2016 wedi methu â llunio bargen a fyddai’n sicrhau eu hawliau gwleidyddol nhw.

Alias Ivan Marquez oedd y prif drafodwr heddwch a oedd yn ceisio dod a hanner canrif o ymladd i ben.

Mewn fideo gafodd ei chyhoeddi heddiw (dydd Iau, Awst 29) mae Alias Ivan Marquez yn ymddangos ar sgrin, ochr yn ochr a thua 20 o ymladdwyr guerrila arfog, yn rhoi’r bai ar yr arlywydd Ivan Duque i gario ymlaen a’r gwaith trafod.

YN 2016, fe gytunodd tua 7,000 o wrthryfelwyr arfog i roi’r gorau i ymladd.