Fe fydd pobol sy’n byw yn ardal Tywyn yn cael mynediad am ddim i arian yn sgil ymgyrch leol i osod peiriant ATM yn y dref.
Fe gychwynnodd yr ymgyrch cyhoeddus ar ôl i gwmni Barclays gau banc olaf y dref ym mis Mehefin. Ar y pryd, fe lofnododd dros fil o bobol ddeiseb yn gwrthwynebu’r penderfyniad.
Bydd y peiriant arian newydd yn cael ei ddarparu gan gwmni Link.
“Newyddion cadarnhaol”
“Cafodd pobol leol eu siomi pan benderfynodd Barclays gau y gangen,” meddai Aelod Seneddol Dwyfor Meirionnydd, Liz Saville Roberts.
“Mewn cymuned sydd â phoblogaeth o dros dair mil, mae’n hanfodol fod pobol yn gallu cael mynediad at arian parod pan fo angen.
“Hoffwn ddiolch i Link am ymateb mor gadarnhaol i bryderon y gymuned ac i bobol leol am ymgyrchu mor galed i sicrhau’r newyddion cadarnhaol hwn.”