Mae cyn-brif weinidog yr Eidal, Guiseppe Conte, wedi derbyn mandad newydd i geisio creu llywodraeth newydd gyda cefnogaeth y Symudiad 5-Star a’r Democratiaid canol-chwith.
Y bwriad yma yw blocio’r arweinydd asgell-dde Matteo Salvini rhag gipio grym.
Dywedodd Guiseppe Conte, yn dilyn cyfarfod gydag arlywydd yr Eidal, Sergio Mattarella, y byddai’n cyfarfod â’r pleidiau yn syth ewr mwyn ceisio creu sefydlogrwydd gwleidyddol cyn gynted a phosib.
Roedd Matteo Salvini wedi mynd yn erbyn ei bartner yn y glymblaid gan achosi i’r Llywodraeth gwympo.
“Mae hwn yn gyfnod cain iawn i’r wlad,” meddai Guiseppe Conte, wnaeth ymddiswyddo ar Awst 20 ar ôl i Matteo Salvini dynnu cefnogaeth i’w lywodraeth.
Dywedodd Conte y byddai’n yn gweithio’n galed i roi llywodraeth gadarn i’r wlad, gan ychwanegu, “mae angen i ni wneud iawn am yr amser rydyn ni wedi’i golli i ganiatáu i’r Eidal adfer ei rôl ganolog yn Ewrop.”
Fe greuodd Matteo Salvini ansefydlogrwydd gwleidyddol oedd unwaith eto’n canolbwyntio sylw buddsoddwyr ar yr Eidal, gan godi costau benthyca ar ei ddyled hynod o uchel.