Mae saith o bobol wedi cael eu lladd gan lifogydd tra’n gwylio gêm bêl-droed ym Moroco.
Cafodd gwylwyr ac eraill yn y gêm eu gorfodi i edrych am lochesi cyfagos yn ninas Tizert, yn ne ardal Taroudant.
Yn ôl asiantaeth newyddion swyddogol Moroco, Map, mae bachgen 17 oed a chwech o bobol wedi cael eu llad, ynghŷd â dyn yn ei henaint wedi’i anafu.
Mae ymchwiliad swyddogol wedi cael ei lansio. Roedd gwasanaeth tywydd Maoroco wedi rhybuddio am risg tywydd gwael mewn nifer o ardaloedd yn y wlad.