Mae awyren yn cario 186 o deithwyr wedi cael ei gorfodi i wyro oddi ar ei llwybr – a hynny er mwyn osgoi dron.

Fe ddisgwyddodd wrth i Airbus A320 a oedd ar ei ffordd i faes awyr Gatwick ac ar uchder o 1,700 troedfedd, ddod o fewn dim i wrthdaro â drôn lliw tywyll.

O weld y ddyfais, fe drodd y peilot ei awyren wyth gradd i’r dde, er mwyn osgoi damwain.

Yn ôl adroddiadau, roedd y drôn yn cael ei hedfan yn uwch nag y mae’r gyfraith yn ei ganiatau, sef 400 troedfedd. Roedd hefyd o fewn gofod awyr sy’n cael ei reoli, ac mae’n cael ei ystyried yn “risg”.