Mae dau ffrwydrad wedi lladd tri phlismon ar lain Gaza, ac wedi anafu dau o bobol eraill, yn ôl Hamas.

Bu farw dau blismon yn y ffrwydrad cyntaf, ac fe fu farw trydydd mewn ffrwydrad arall awr yn ddiweddarach.

Cafodd yr heddlu eu hanfon i’r ardal, gan osod blocâd ar strydoedd a symud traffig i gyfeiriad arall wrth i’r gwasanaethau brys ymateb i’r digwyddiad.

Dydy hi ddim yn glir pwy sy’n gyfrifol am yr ymosodiadau ond maen nhw’n debyg i rai o ymosodiadau blaenorol yn ystod brwydro ffyrnig rhwng Hamas a’r grŵp Islamaidd Salafi.

Mae Salafi yn credu nad yw’r awdurdodau’n ddigon cadarn wrth orfodi gwerthoedd ac arferion Islamaidd ar y gymdeithas.

Mae Ismail Haniyeh, pennaeth Hamas, yn dweud y gall Gaza ymdopi a’r fath ddigwyddiadau.

Yn dilyn y ffrwydrad cyntaf, roedd Hamas yn rhoi’r bai ar Israel, ond cafodd postiad llefarydd ar ran y Gweinidog Iechyd ar Twitter ei ddileu.

Mae Israel yn dweud nad ydyn nhw’n ymwybodol o unrhyw weithredoedd swyddogol ganddyn nhw ar lain Gaza.