Mae dyn 21 oed wedi cael ei arestio ar ôl i’w gar daro coeden a lladd dau o bobol a gadael dau arall mewn cyflwr difrifol.
Fe ddigwyddodd yn ardal Loughton yn Essex, lle cafodd y gyrrwr ei arestio yn y fan a’r lle ar amheuaeth o achosi marwolaeth trwy yrru’n beryglus, achosi anafiadau difrifol drwy yrru’n beryglus a gwyrdroi cwrs cyfiawnder.
Mae’n cael triniaeth yn yr ysbyty am fân anafiadau, ar ôl i’w BMW M3 daro coeden toc ar ôl 2.05 fore heddiw (dydd Sadwrn, Awst 24).
Bu farw dyn a dynes yn eu 20au yn y fan a’r lle, a chafodd dwy ddynes eu cludo i’r ysbyty mewn cyflwr difrifol.
Mae’r heddlu’n apelio am dystion.